Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021, Y Cyfarfod Llawn 23 Mawrth 2021

 

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig.

 

Hoffwn egluro'n gryno gefndir y ddadl heddiw ar Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru) 2021. Yn gyntaf, bydd adran 1(1) Deddf Anifeiliaid Anwes 1951 yn peidio â bod yn effeithiol o ran Cymru a bydd y rheoliadau hyn yn eu disodli. Yn ail, ac efallai'n fwy arwyddocaol, mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn drosedd gwerthu ci bach neu gath fach nad yw'r gwerthwr wedi'i fridio ei hun ar y safle. Gwnes i ymrwymo yn gyntaf i ymchwilio i wahardd gwerthiannau masnachol trydydd parti cŵn bach a chathod bach ym mis Mehefin 2018. Mae hi wedi bod yn daith hir, ond ar hyd y ffordd, rydym ni hefyd wedi cymryd camau eraill i gryfhau gallu awdurdodau lleol ledled Cymru i orfodi'r rheoliadau presennol, yn ogystal â'r rheoliadau newydd hyn. 

 

Mae'r rheoliadau hyn yn gam arall eto tuag at sicrhau lles cŵn bach a chathod bach sy'n cael eu bridio a'u gwerthu ymlaen i drydydd partïon ar hyn o bryd. Mae eu lles yn gwella'n sylweddol drwy gael eu gwerthu gan fridwyr yn uniongyrchol i'r perchennog newydd yn unig. Ar hyn o bryd, gall trydydd partïon masnachol werthu cŵn bach a chathod bach, sy'n golygu, yn y rhan fwyaf o achosion, na fydd prynwyr yn gweld y ci bach na'r gath fach yn rhyngweithio â'r fam neu'r brodyr a chwiorydd. Efallai eu bod hefyd wedi gorfod dioddef nifer o deithiau cyn cyrraedd eu cartref newydd.

 

Daw'r rheoliadau sy'n cael eu gwneud heddiw i rym yn llawn ar 10 Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, caiff canllawiau statudol eu cyd-gynhyrchu i gefnogi gorfodaeth gan awdurdodau lleol, a bydd yr amserlen hon hefyd yn caniatáu i werthwyr presennol y mae hyn yn effeithio arnyn nhw i wneud newidiadau ac ystyried model gweithredu gwahanol i liniaru unrhyw effaith bosibl. Hoffwn i ei gwneud yn glir y bydd canllawiau statudol ar gyfer swyddogion gorfodi yn rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen ar swyddogion awdurdodau lleol i orfodi'r gyfundrefn drwyddedu, sy'n llywio oddi wrth un dull gweithredu sy'n addas i bawb. 

 

Rydym ni'n cyflwyno rheoliadau sy'n cau bylchau, o ran creu disgresiwn ar orfodi i weithio gyda sefydliadau allweddol sy'n ymwneud naill ai â gweithgareddau ailgartrefu neu achub. Maen nhw'n darparu sianel i awdurdodau lleol asesu a yw'r anifeiliaid yn cael eu defnyddio er budd ariannol yn unig drwy'r prawf busnes, a'u nod yw gwella lles anifeiliaid, gan gefnogi penderfyniadau gwybodus gan y cyhoedd sy'n prynu. Rwy'n cymeradwyo’r cynnig i'r Senedd. Diolch.